Croeso i wefan Aberconwy Car and Van Hire! Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gerbydau yn cynnwys ceir awtomatig, ceir ystad, cerbydau masnachol ysgafn, a bysiau mini gyda 9 ac 17 o seddau.
I wneud ymholiad dros y we, cliciwch ar ein tudalen Ymholidau.
I gael rhagor o gymorth, cliciwch ar ein tudalen cysylltwch.
-
Car Hire FAQ’s
Ydych chi’n chwilio am ychydig o help i ddewis y cerbyd iawn? Hoffech chi wybod beth sydd orau ar gyfer cludo nifer penodol o bobl? Yna ewch trwy’n adran cwestiynau cyffredin, ac os na chewch ateb yno, gallwch gysylltu â ni unrhyw adeg!
-
Corporate Hire
Yn ogystal â llogi am benwythnosau neu am gyfnodau byr, gallwch hefyd ddefnyddio’n gwasanaeth llogi corfforaethol am gyfnodau hirach, i gael at ein fflyd lawn o gerbydau pryd bynnag y byddwch ei angen. Boed yn gerbyd bach am un daith neu’n fws mini i’w ddefnyddio’n ddyddiol, gallwn ni eich helpu!
-
Ex-fleet Cars for Sale
Mae’n holl gerbydau ni’n cael eu cadw mewn cyflwr fel newydd. Mae hynny’n golygu y gallwch fod yn sicr, pryd bynnag y byddwn yn penderfynu eu gwerthu, o gael cerbyd sydd wedi cael ei gynnal a’i gadw’n dda drwy gydol ei oes!
Barn ein cwsmeriaid
-
Mae Aberconwy Car & Van Hire darparu gwasanaeth heb ei ail. Mae eu proffesiynoldeb a thelereau llogi yn sicrhau y byddwch yn sicr o gael bargen dda . Yr hyn y maent hefyd yn darparu (yn ddi-dâl} yw’r cyngor ar y cerbyd cywir ar gyfer eich anghenion, gan gadw’r costau i lawr.
Anwen Williams - Prifysgol Cymru
-
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn gwsmeriaid rheolaidd o Aberconwy Car & Van Hire ers dros 12 mlynedd ac yn parhau i fwynhau gwasanaeth cyfeillgar, prydlon , effeithlon a dibynadwy oddi wrth eu holl staff . Ni fyddem yn petruso o gwbl cyn eu hargymell i ddefnyddwyr eraill ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda nhw yn y dyfodol.
Joan Roberts - Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
-
Excellent company and staff. Have hired from them for several years, never a problem. Fully recommended.
Craig Bisby - Williams Denton Cyf

