Ein oriau agor arferol yw:
Fodd bynnag, mae’n bosibl gwneud trefniadau i gasglu cerbydau y tu allan i’r amseroedd hyn wrth wneud trefniadau ymlaen llaw yn unig. Felly mae cerbydau ar gael i’w casglu gyda’r nos, ar amseroedd a drefnwyd ymlaen llaw.
Nodir y termau cyffredinol ar gyfer llogi cerbydau yn isod, fodd bynnag, os byddwch yn dod y tu allan i’r telerau yswiriant hyn, ffoniwch am ddyfynbrisiau yswiriant car sydd wedi’u teilwra yn bersonol, oherwydd yn aml y gallwch llogi hyd at a thros 75 mlwydd oed.
Rhaid datgan unrhyw gosb sydd ar y drwydded wrth fwcio, ac mi fydd pob cosb yn cael ei ystyried yn unigol.
Fel rheol, rydym yn hoffi gweld 3 math o adnabyddiaeth sy’n cynnwys:
I fwcio cerbyd:
Arlein – Cwblhewch y ffurflen ar y dudalen ymholidau, gan gofio i gynnwys eich manylion cyswllt a gofyniadau cerbyd (fel faint o seddau a lle i storio).
Ar ôl derbyn eich ebost, byddem yn edrych i weld os ydi’r cerbyd ar gael, a gyrru ateb gyda dyfynbris llawn am y cyfnod heirio a ofynnwyd amdano. Os nad yw eich dewis o gerbyd ar gael byddem yn gyrru atoch fanylion o gerbydau addas eraill, sydd ar gael.
Teleffôn – Gallwch chi ein ffonio i fwcio ar 01492 874 669 yn ystod oriau gwaith yn ystod nosweithiau a phenwythnosau.
Bydd rhaid talu £550 o flaendal difrod* ar bob cerbyd yn ogystal a’r cost heirio wrth gasglu’r cerbyd.
Derbynnir y dulliau talu canlynol ar gyfer talu am heirio cerbydau: Arian Parod, Cerdyn Debyd, Cerdyn Credyd a Sieciau Teithio.
* yn ddibynnol ar fanylion y person sy’n herio, eu hoedran a’r math o gerbyd sy’n cael ei herio.
Mae’n bosib i deithio tramor yn ein cerbydau, ond i wneud yn siwr fod y gyrrwr wedi’i yswirio ac bod y cerbyd o dan polisi torri lawr tramor mae’n rhaid cael ein caniatad ysgrifenedig i deithio tu allan i Gymru, Lloegr neu’r Alban.
Gallem cynnig yswiriant a gofal AA tramor fel cost ychwanegol, ond mi fydd hynny yn dibynnol ar y cerbyd.