Yn y categori hwn mae gennym y Ford Transit Hightop a’r Peugeot Boxer L3 Hightop. Mae’r holl faniau hyn yn rhai hir (LWB) sydd ag injan diesel rhad ei rhedeg, i’r dim ar gyfer defnydd masnachol a symud darnau mawr o ddodrefn.
Mae’r faniau mawr Grwp 9 hyn i’r dim i’r rheini ohonoch sy’n bwriadu symud ty neu sydd angen cerbyd at ddefnydd masnachol. Mae lle ynddyn nhw i 3 o oedolion yn y tu blaen ac mae lle i lwyth mawr yn y cefn sydd fel arfer tua 3.35 metr o hyd, 1.75 metr o led ac 1.90 metr o uchder, heb gynnwys y rhan uwchben y tu blaen.