Yn y categori hwn mae gennym y Ford Ranger, y Nissan Navara a’r Toyota Hilux. Mae’r rhain i gyd yn gerbydau 4×4 maint lawn cab dwbl sy’n gallu mynd yn rhwydd ar dir garw yn ogystal â bod yn gerbydau gwaith ymarferol.
Mae ein cerbydau 4×4 i gyd yn rhagorol oddi ar y ffordd a hefyd yn gerbydau gwych ar gyfer towio ac yn beiriannau gweithio ymarferol. Mae lle ynddyn nhw i 5 o oedolion eistedd yn gyffyrddus, a gyda 4 drws a digonoedd o le cludo yn y cefn a lle digonol i goesau yn y cefn mae’n rhwydd mynd i mewn ac allan. Yn ogystal â bariau towio a lle i gloi pethau yn y cefn, mae ganddyn nhw hefyd aerdymheru, cysylltiad Bluetooth a MPV a thechnoleg cychwyn-stopio.