Yn y categori hwn mae gennym fan blwch y Ford Transit Luton gyda llawr codi yn y cefn. Hwn yw’r cerbyd mwyaf sydd gennym ac mae i’r dim ar gyfer symud darnau mawr o ddodrefn yn hawdd.
Mae’r faniau Grwp 10 hyn i’r dim i’r rheini ohonoch sy’n bwriadu symud ty neu sydd angen cerbyd ar gyfer defnydd masnachol mawr neu drwm. Bydd y llawr codi ar y cefn yn codi 500kg (hanner tunnell), ac mae cynllun sgwâr ac angorau cebl niferus y cerbyd yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer pob math o lwythi. Mae tu mewn y fan fel arfer tua 4.2 metr o hyd, 2 metr o led a 2.15 metr o uchder heb gynnwys y darn uwchben y tu blaen.