FAQs

FAQs

Pryd ydych chi ar agor?

Ein oriau agor arferol yw:

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener – 09:00 – 17:00
  • Dydd Sadwrn – 08:30 – 10:00
  • Dydd Sul – Gyda apwyntiad yn unig

Fodd bynnag, mae’n bosibl gwneud trefniadau i gasglu cerbydau y tu allan i’r amseroedd hyn wrth wneud trefniadau ymlaen llaw yn unig. Felly mae cerbydau ar gael i’w casglu gyda’r nos, ar amseroedd a drefnwyd ymlaen llaw.

Cyfyngiadau Oed a Thrwyddedau Gyrru

Nodir y termau cyffredinol ar gyfer llogi cerbydau yn isod, fodd bynnag, os byddwch yn dod y tu allan i’r telerau yswiriant hyn, ffoniwch am ddyfynbrisiau yswiriant car sydd wedi’u teilwra yn bersonol, oherwydd yn aml y gallwch llogi hyd at a thros 75 mlwydd oed.

  • MPVs gyda 7-9 o seddau: Mae gyrrwyr yn gorfod bod rhwng 25 a 70 oed gyda 5 mlynedd o brofiad gyrru ar drwydded lawn.
  • Bws mini 15 a 17 o seddau: Mae gyrrwyr yn gorfod bod rhwng 25 a 70 oed, gyda thrwydded lawn â chategori D1E.
  • Pob cerbyd arall: Mae gyrrwyr yn gorfod bod rhwng 25 a 70 oed gyda 2 flynedd o brofiad gyrru ar drwydded lawn.

Rhaid datgan unrhyw gosb sydd ar y drwydded wrth fwcio, ac mi fydd pob cosb yn cael ei ystyried yn unigol.

Adnabyddiaeth Derbyniol

Fel rheol, rydym yn hoffi gweld 3 math o adnabyddiaeth sy’n cynnwys:

  1. Trwydded Yrru Llawn a Rhif Yswiriant Gwladol
  2. Prawn o gyfeiriad (Bil Gwasanaeth o fewn y 6 wythnos diwethaf, Cyfriflen Banc, Slip Cyflog, Bill Cerdyn Credyd ac ati)
  3. Adnabyddiaeth llun/Llofnod (Pasport, Llun ID)

Sut I Fwcio Cerbyd

I fwcio cerbyd:

Arlein – Cwblhewch y ffurflen ar y dudalen ymholidau, gan gofio i gynnwys eich manylion cyswllt a gofyniadau cerbyd (fel faint o seddau a lle i storio).

Ar ôl derbyn eich ebost, byddem yn edrych i weld os ydi’r cerbyd ar gael, a gyrru ateb gyda dyfynbris llawn am y cyfnod heirio a ofynnwyd amdano. Os nad yw eich dewis o gerbyd ar gael byddem yn gyrru atoch fanylion o gerbydau addas eraill, sydd ar gael.

Teleffôn – Gallwch chi ein ffonio i fwcio ar 01492 874 669 yn ystod oriau gwaith yn ystod nosweithiau a phenwythnosau.

Taliadau a Blaendaliadau

Bydd rhaid talu £550 o flaendal difrod* ar bob cerbyd yn ogystal a’r cost heirio wrth gasglu’r cerbyd.

Derbynnir y dulliau talu canlynol ar gyfer talu am heirio cerbydau: Arian Parod, Cerdyn Debyd, Cerdyn Credyd a Sieciau Teithio.

* yn ddibynnol ar fanylion y person sy’n herio, eu hoedran a’r math o gerbyd sy’n cael ei herio.

Cyfyngiadau Teithio

Mae’n bosib i deithio tramor yn ein cerbydau, ond i wneud yn siwr fod y gyrrwr wedi’i yswirio ac bod y cerbyd o dan polisi torri lawr tramor mae’n rhaid cael ein caniatad ysgrifenedig i deithio tu allan i Gymru, Lloegr neu’r Alban.

Gallem cynnig yswiriant a gofal AA tramor fel cost ychwanegol, ond mi fydd hynny yn dibynnol ar y cerbyd.